Digwyddiad ar Lôn Glanmôr

Mae’r Heddlu’n gofyn i bobl aros draw os yn bosib

gan Osian Owen
Untitled-design-4

Neges ar dudalen Facebook Heddu Gogledd Cymru

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn i bobl aros draw o Lôn Glanmôr yn ardal Hirael, Bangor, os yn bosib.

Mae’r Heddlu’n gwneud y cyhoeddiad oherwydd bod Ambiwlans Awyr yn ceisio glanio yn yr ardal yn dilyn digwyddiad.

Nid yw natur y digwyddiad yn glir eto.