Hoci: Dechreuad perffaith i ddynion Bangor

Ennill 3-0 yn erbyn Bebington yng ngêm gyntaf y tymor

Tomos Hughes
gan Tomos Hughes

Cafodd tîm hoci Bangor y dechreuad perffaith i’w tymor yn Adran 4 Cynghrair Hoci Gogledd Orllewin Lloegr, wrth iddyn nhw drechu ail dîm Bebington o dair gôl i ddim.

Ar brynhawn clos ym Mangor, roedd hon yn gêm hynod gystadleuol o’r chwiban gyntaf i’r olaf.

Llwyddodd y Gleision i fynd ar y blaen ar ôl tri munud yn unig, gyda’r capten Paul McCallum yn rhwydo gôl gyntaf y gêm.

Fe lwyddodd y ddau dîm i greu cyfleoedd yn yr hanner cyntaf, gyda Bebington yn taro un ergyd modfeddi heibio’r postyn pellaf, tra bod Dave Paterson wedi gorfodi golwr yr ymwelwyr mewn i ddau arbediad da.

Yn yr ail hanner, fe godwyd y tempo yn uwch eto gan Fangor. Daeth Dan Jackson, Charlie Jackson, Will Hall a Dave Paterson yn agos gydag ergydion, wrth i’r tîm cartref wthio am yr ail gol hollbwysig.

Ac ar ôl cyfnodau o bwysau sylweddol ar amddiffyn Bebington, o’r diwedd daeth yr ail gyda 12 munud yn weddill, wrth i Tom Hughes ganfod Dave Paterson yn y ‘D’, cyn i’r ymosodwr saethu’n gadarn mewn i gornel dde’r gôl.

Wrth i’r ddau dîm flino yn y deg munud olaf, llwyddodd Bangor i fanteisio drwy sgorio trydydd gol gyda phum munud i fynd; Tom Hughes orffennodd symudiad da gyda Tom Wale a Dave Paterson, i gau ben y mwdwl ar y gêm.

Roedd llawer iawn o agweddau positif ym mherfformiad y Dinasyddion, gyda phawb yn chwarae eu rhan mewn buddugoliaeth gofiadwy – ond roedd cyfraniad pedwar o’r bechgyn yn eu harddegau, yn chwarae eu gem gystadleuol gyntaf erioed, yn hynod o galonogol.

Wythnos nesaf, bydd Bangor yn teithio oddi cartref i herio Caer, gyda’r gêm yn cychwyn am 1.30yh.