Bore Coffi Macmillan yn y Felinheli

Mae gwobrau lleol gwych i’w hennill yn y raffl

gan Osian Owen
240786881_10166444443350377

Poster y bore coffi, wedi ei gynnwys gyda chaniatâd

Mae bore coffi i godi pres at elusen cancr Macmillan wedi ei drefnu yn Felin ar gyfer Dydd Sadwrn Medi 25.

Bydd y bore coffi, sy’n rhan o Fore Coffi Mwya’r Byd elusen Macmillan yn dechrau am 10yb ar y gwair dros ffordd i dafarn y Garddfon.

Mae tocyn yn costio £2, ac mae amrywiaeth o weithgareddau wedi eu trefnu. 

  • Bydd cannoedd o gacennau ar gael, yn ogystal â choffi neu de, neu ddiod oer i blant.
  • Tombola i blant.
  • Tombola i oedolion.
  • Dyfalu nifer o Skittles mewn jar.
  • Dyfalu nifer o sprincls ar ‘Colin’, y siani flewog.

Mae’r raffl yn cynnwys llu o wobrau gan fusnesau lleol, yn cynnwys;

  • Taleb £50 i La Marina
  • Taleb Waitrose gan Roberts PD
  • Taledb £20 i gaffi Swellies
  • Lampshêd gan Golau
  • Te prynhwan i ddau o Fron Goch
  • Pryd i ddau a photel o win yn nhafarn y Garddfon
  • Taleb £10 Tŷ Golchi
  • Taleb £10 Ffyj Mam
  • Taleb £25 Beauty by Maryam
  • Taleb £20 Chans
  • 2 fýg a 2 gardyn gan To Bach
  • Dalwyr canhwyllau Coach House
  • Coes oen gan Conwy Valley Meats
  • Potel o Bramble Gin
  • Potel o gin mefus

Dewch i gefnogi!