Dathlu’r Wythnos Werdd Fawr yng Nghanolfan Affricanaidd Gogledd Cymru

Mae’r ganolfan yn cynnal cyfres o weithgareddau ar ymwybyddiaeth hinsawdd

gan Osian Owen
Picture-1

Llun Manon Dafydd, wedi ei ddefnyddio gyda chaniatâd

Yr wythnos hon, dethlir yr Wythnos Werdd Fawr, wythnos i ddathlu gweithredu ar newid hinsawdd a natur yn y DU. Mae’r wythnos wedi cael ei disgrifio fel cyfle i ddathlu sut mae cymunedau yn gweithredu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a gwarchod mannau gwyrdd, gan annog eraill i gymryd rhan.

 

Mae dathliadau’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor ar y Stryd Fawr, ac mae’r gweithgareddau ymhlith dros 4,000 o ddigwyddiadau ledled y DU fel rhan o’r Wythnos Werdd Fawr rhwng 18 – 26 Medi 2021.

 

Cynhaliwyd lansiad dathliadau Bangor yng Nghanolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor ddydd Sadwrn.

 

Dilynwch dudalen Facebook Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau.