Merched y Wawr Penrhogarnedd yn mynd yn hybrid

Dau ddigwyddiad mewn wythnos

gan Sioned Jones

Mae Merched y Wawr Penrhosgarnedd wedi ail-afael ynddi go iawn yr wythnos hon, gyda dau ddigwyddiad, y naill yn rhithiol a’r llall yn yr awyr agored. Hybrid go iawn felly, yn ôl ffasiwn yr oes!

Cyfarfu’r gangen dros Zoom nos Fercher 15 Medi. Ein siaradwr gwadd oedd neb llai na Myrddin ap Dafydd, yr Archdderwydd presennol. Noswyl diwrnod cofio Owain Glyndŵr oedd hi ac fe’n tywyswyd mewn sgwrs gyfareddol drwy Owain Glyndŵr, ei ddylanwad ar O. M. Edwards a dylanwad O.M. ar ŵr a fu’n flaenllaw, gyda Gandhi, yn ymgyrchu dros annibyniaeth i India. Trywydd annisgwyl a oedd yn dangos pa mor bellgyrhaeddol y gall dylanwad un unigolyn fod.

Pawb wedi mwynhau’r sgwrs yn fawr – ond nid yw cymdeithasu dros Zoom yr un fath! Roedd nifer dda o’r aelodau’n bresennol, a chawsom gwmni rhai o’n ffrindiau o gangen Bangor hefyd. Ond gormod i  bobl i gael sgwrs fach un i un am blant ac wyrion, i glywed am wyliau yma ac acw, i lawenhau am lwyddiant ac i gydymdeimlo am brofedigaeth. Penderfynwyd felly gael taith gerdded ar Bier Bangor dydd Sadwrn yng nghwmni’r hanesydd lleol Gareth Roberts, a chafwyd prynhawn hyfryd. Hanesion difyr am y Pier ond digon o amser i hamddena hefyd – ac yna paned ar y diwedd. Blas o’r ymwneud gwirioneddol sy’n rhan o unrhyw gymdeithas ac sydd ar goll yn y rhithfyd.

Ond Zoom fydd ein cartref am dipyn eto, tan y gwanwyn mae’n debyg. Os hoffech chi ymuno â ni, neu os oes gennych syniad am dro bach rhwng cyfarfodydd, mae croeso cynnes i chi. Cewch yr holl fanylion gan yr ysgrifenyddes Cynthia Owen ar  01248 364008  neu cynthiaowen@tiscali.co.uk Byddwch yn siŵr o nabod rhywun yno!