HOCI: Bangor yn paratoi at y tymor newydd drwy drechu Llaneurgain

Budgugoliaeth i dynion Bangor

Tomos Hughes
gan Tomos Hughes

Fe enillodd tîm hoci dynion Bangor 7-0 yn erbyn ail dîm Neuadd Llaneurgain dydd Sadwrn.

Gydag wythnos i fynd tan gychwyn y tymor newydd, roedd y gêm yn gyfle gwych i chwaraewyr ifanc gael munudau gwerthfawr ar y cae.

Fe chwaraeodd y dinasyddion gyda chyflymder a dwyster drwy gydol y 70 munud wrth iddyn nhw reoli’r gêm o’r chwiban gyntaf i’r olaf.

Er iddynt greu sawl cyfle da, dim ond un gôl llwyddodd Bangor i sgorio yn yr hanner gyntaf, gyda’r capten Paul McCallum yn rhwydo ar ôl rhediad twyllodrus.

Roedd hi’n stori wahanol wedi’r egwyl wrth i’r gleision lwyddo i fanteisio mwy ar eu cyfleoedd.

Fe sgoriodd Ash Hardaker tair gwaith, gan gynnwys dwy ergyd o gorneli gosb, gyda Flynn Holt yn sgorio dwy a Tom Hughes yn gwyro’r bêl heibio golwr Llaneurgain yn symudiad ola’r gêm, i selio buddugoliaeth gwbl haeddiannol.

Bydd Bangor yn cychwyn eu tymor yn Adran 4 Gorllewin o Gynghrair Hoci Gogledd Orllewin Lloegr, gartref yn erbyn ail dîm Bebington ar ddydd Sadwrn, gyda’r gêm yn cychwyn am 2.15 ar gae astoturf Canolfan Brailsford.

1 sylw

William Owen
William Owen

..ar ddydd Sadwrn. Pa ddydd Sadwrn?

Mae’r sylwadau wedi cau.