Felin dal i ddisgwyl am eu buddugoliaeth cyntaf

Gêm gyfartal arall yng nghynghrair “Ardal Gogledd Orllewin”

gan Gwilym John

Felinheli 2 Llanelwy 2

Er fod y tîm cartref wedi rheoli’r gêm, yn enwedig yn yr ail hanner, lle roedd ton ar ol ton o ymosodiadau, bu rhaid bodloni gydag un pwynt unwaith eto. Mae Felin wedi chwarae saith gêm yn y gynghrair, ac wedi cael pedair gêm gyfartal. Rhaid ennill gemau os ydi Felin am barhau yn y gynghrair y tymor nesaf.

Gyda’r sgor yn 1-1, a Felin yn mynd amdani drwy gydol yr ail hanner, cafwyd gwrth-ymosodiad prin gan Llanelwy, a rhywsut aeth y sgôr yn 1-2 i’r ymwelwyr. Gyda Llanelwy un safle yn is na Felin yn y tabl, roedd hon yn “must win”, i’r ddau glwb beryg. Edrychai petha yn ddu iawn, ond trochi llewys wnaeth yr hogia, a daeth y gol gan Gruff yn dilyn peniad Ifan Emyr o gic gornel, gyda’r 90 munud wedi cwblhau.

Rhyddhad o beidio colli, ond siom enfawr nad oedd Felin wedi cael y tri-phwynt oedda nhw yn haeddu.