Dathlu cyhoeddiad “hir-ddisgwyliedig” ar ysgol feddygol i Fangor

Mae’r AS Plaid Cymru dros Arfon wedi croesawu’r cyhoeddiad ar raglen hyfforddi myfyrwyr meddygol 

gan Osian Owen

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd mwy o fyfyrwyr meddygol yn treulio eu holl hyfforddiant yng ngogledd Cymru fel rhan o symudiadau tuag at sefydlu ysgol feddygol yno.

 

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd yr AS dros Arfon Siân Gwenllian,

 

“Mae Plaid Cymru a minnau wedi dadlau ers amser fod hyfforddi meddygon ym Mangor yn rhan hanfodol o’r ymdrech i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal o’r radd flaenaf i’r bobl rwy’n eu cynrychioli ac i holl drigolion gogledd Cymru.

 

“Bydd Llywodraeth Cymru nawr – o’r diwedd – yn cyflwyno ysgol feddygol lawn ac annibynnol ar gyfer gogledd Cymru, wedi’i lleoli ym Mangor. Mae hynny, ynghyd â mwy o fyfyrwyr meddygol yn hyfforddi yng ngogledd Cymru, i’w ddathlu a’i groesawu a bydd yn garreg filltir bwysig yn y broses o gyflawni ein huchelgais hirsefydlog o ysgol feddygol lawn yng ngogledd Cymru.

 

“Mae’n hanfodol bod bwrdd y rhaglen newydd yn gweithio’n gyflym ac yn effeithiol fel y gallwn weld cynnydd gwirioneddol dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd, y Gweinidog Iechyd, gyda Phrifysgol Caerdydd a Bangor a phartneriaid eraill wrth inni symud ymlaen i sefydlu’r ysgol feddygol ar sylfeini cryf, gan dynnu ar brofiadau o leoedd eraill ac archwilio ffyrdd arloesol o weithio, yn enwedig o safbwynt hyfforddi meddygon mewn amgylchedd gwledig.”