Gig Cyntaf Encôr

Mwynhau perfformio ar Bier Bangor

Ruth Wyn Williams
gan Ruth Wyn Williams

Braf oedd cael bod allan eto yn canu ar Bier Bangor yn yr heulwen. Hwn oedd gig cyntaf y côr newydd a sefydlwyd yn Rhagfyr 2020. Ar ôl ymarfer yn bob tywydd yn stadiwm pêl droed Nantporth, roedd hi’n bleser cael perfformio yn fyw i gynulleidfa. Roedd yn berfformiad egnïol gan ganu caneuon i godi’r ysbryd a chasglu arian tuag at elusennau Gafael Llaw ac Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd yr ymateb yn wych o’r gynulleidfa ac rydym yn edrych ymlaen at ganu unwaith eto yn fuan. Rydym yn croesawu aelodau newydd i’r côr. Cysylltwch â encor.wyn@gmail.com.