Graffiti gwrth-frechiad ar wal y Faenol

Mae’r graffiti yn cwestiynu pa mor ddiogel yw’r brechiad Covid-19

gan Osian Owen
240494797_2974629546144169

Diolch i Siwan Owen am gael defnyddio’r llun

240291817_533903864391744

Diolch i Siwan Owen am gael defnyddio’r llun

Mae graffiti gwrth-frechiad wedi ymddangos ar wal rhwng y Felinheli a Bangor.

Mae’r wal, sy’n ffinio â’r B4547 rhwng y Felinheli a Bangor yn rhan o stad y Faenol.

Mae’r graffiti yn cwestiynu pa mor ddiogel yw’r brechiad Covid-19, gan ddweud;

The BBC covered Jimmy Saville, they say vaccines are safe?

Cofiwch ei bod hi’n bwysig dilyn y cyngor meddygol proffesiynol diweddaraf, ac mae gwefan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn nodi bod;

Brechlynnau coronafirws (COVID-19) yn ddiogel ac yn effeithiol. Maen nhw’n rhoi’r amddiffyniad gorau i chi yn erbyn COVID-19.

Mae’r brechlynnau COVID-19 a gymeradwywyd i’w defnyddio yn y DU wedi cwrdd â safonau diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd llym

Gallwch drefnu derbyn eich brechiad drwy ddilyn y ddolen hon.