Cwpan Cymru : Felin v Saltney

Felin yn colli 2-3 yn Saltney 

gan Gwilym John
Saltney-Ifan-Stead-210814

Ifan Stead yn hedfan i lawr yr asgell

Saltney-Felin-210814

Gruff yn brwydro am y bel

Colli fu hanes Felin yn rownd gyntaf Cwpan Cymru dydd Sadwrn ddiwethaf yn Saltney. Tydi Felin heb gael ryw lawer o lwc cyn belled ag y mae anafiadau yn y cwestiwn, gyda chwe neu saith chwaraewr ddim ar gael ar hyn o bryd. Dau eilydd oedd gan Felin, Rich Jones sydd newydd arwyddo o Lanberis, ac Euron y rheolwr, oedd ar gael os oedd rhaid. Daeth Rich ymlaen yn lle Gruff ddechrau’r ail hanner ar ol iddo dynnu rhywbeth yn ei groin, rhywbeth ddaeth yn amlwg iddo tra’n sgorio o gic o’r smotyn i ddod a Felin yn gyfartal yn munudau olaf yr hanner cyntaf.

Aeth y tim cartref 2-1 ar y blaen ar yr awr, ac aeth pethau o ddrwg i waeth pan ddaeth yn amlwg nad oedd Connor Japheth yn medru cario ymlaen oherwydd anaf i’w benglin. Bu rhaid i Euron ddod ar y cae am y ddeg munud olaf, chwarae teg iddo. A gyda Felin yn brwydro yn galed i drio mynd â’r gêm i benaltis, sgoriodd Saltney ryw funud ar ol y 90 i wneud y gêm yn saff. Ond cario ymlaen i frwydro wnaeth hogia Felin a llwyddodd Ifan Stead i sgorio yn yr eiliadau olaf. Ond roedd hi yn rhy hwyr i achub y gêm, a dyna ddiwedd ar daith Felin yn y cwpan cenedlaethol am eleni.

Da iawn i’r hogia ar y cae am ddangos cymeriad ac angerdd