Teithiau cerdded Mwyn

Porthaethwy – Llanfairpwll

gan Daniela Schlick
IMG-20210806-WA0022
Llew
teithiauMWYN_Caernarfon-1
teithiauMWYN_Llanberis_v1-1

Diolch i Rhys Mwyn am arwain ar daith gerdded ar hyd llwybr arfordir Môn o Borthaethwy i Lanfairpwll. Gwnaeth pawb fwynhau’r daith hyfryd, y golygfeydd a’r sgyrsiau.

Braf iawn oedd cael grŵp cymysg o siaradwyr Cymraeg o bob gallu – boed yn siaradwyr mamaeth neu newydd! Llifodd y sgwrsio ar hyd y daith mor rhwydd â llanw’r Fenai.

Y daith gerdded gyntaf mewn cyfres o 3 taith oedd hi. Bydd y ddwy daith arall o amgylch Caernarfon yn dilyn hanes ac archeoleg y Rhufeiniaid ar y 13eg o Awst ac yn Llanberis ar yr 20fed o Awst. Bydd y ddwy daith yn cychwyn am 6pm. Felly, dowch yn llu!

Cofrestrwch trwy anfon e-bost at neges@menteriaithbangor.cymru.

Menter Iaith Bangor – Hafan