CPD Felin v Port

Ail rownd “Tlws Amatur Cymru”

gan Gwilym John
E8M4ozIWUAUtECf

Eisteddle newydd CPD Y Felinheli yn cael ei defnyddio am y tro cyntaf (llun Phil Stead)

CPD Y Felinheli 1  Porthmadog 2     Tlws Amatur Cymdeithas Bel-Droed Cymru, Rownd 2

Gyda Senedd Cymru yn llacio cyfyngiadau Covid yn ein gwlad, roedd posib agor yr eisteddle am y tro cyntaf, yn ogystal a chael defnyddio yr ystafelloedd newid unwaith eto. Diolch byth am hynny, gan fod y glaw wedi pistyllio i lawr drwy’r ail hanner, ac o leiaf roedd rhywfaint o’r dorf o ryw 180 yn medru cadw yn sych. A roedd cawod cynnes ar ol y gêm yn rhywbeth i’w werthfawrogi gan y chwaraewyr gwlyb. Do, roedd cyhoeddiad Mr Drakeford yn amserol iawn.

Porthmadog yw “big spenders” y gynghrair mae Felin yn rhan ohoni. Ac i ddweud y gwir, mae hi yn anodd gwybod sut mae nhw wedi landio yn y gynghrair “haen 3”. Mae nhw yn amlwg ar frys i fynd yn ol i’r ail haen, os nad y brif gynghrair, yn ol yr arian mae nhw yn fodlon dalu i chwaraewyr. Felly roedd y gêm gwpan yma yn mynd i fod yn gêm anodd. A gyda pum neu chwech chwaraewr allweddol Felin yn absennol  am wahanol resymau, toedd neb yn disgwyl ryw lawer.

Ond erbyn hanner amser, roedd Felin 1-0 ar y blaen. Gôl bendigedig gan Rhys “Archie” Parry, hedar bwerus o groesiad Meredydd Darbi. Toedd neb yn disgwyl hyn.

Llwyddodd Port sgorio dwy gol yn yr ail hanner, dwy gôl dda iawn. Ond o fewn munudau i’w ail gôl, roedd Felin yn meddwl eu bod yn gyfartal unwaith eto, ddim ond i’r llimanwr bendefynnu ei bod yn offseid. Roedd fy wyr bach 8 oed, oedd ddigon call i fynd i’r eisteddle yn y glaw, yn taeru nad oedd dim o’i le efo’r gôl, ond dyna ni.

Colli 1-2 yn erbyn tim cryf iawn, a chwarae yn galed tan y diwedd, da iawn Felin. Gêm nesaf CPD Y Felinheli fydd oddicartref yn Saltney yng Nghwpan Cymru (y brif gwpan hynny yw), ddydd Sadwrn nesaf.