Darlithydd Prifysgol Bangor yn cipio’r Fedal Ddrama

Mae darlithydd Prifysgol Bangor o Ynys Môn wedi cipio Medal Ddrama yr Eisteddfod AmGen

gan Osian Owen

Mae Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan, Ynys Môn yn darlithio mewn Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor.

 

Rhoddwyd y wobr eleni am sgript wreiddiol ar gyfer y llwyfan “neu’n ddigidol.”

 

Dydi llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ddim yn lle dieithr i Gareth, gan mai dyma’r ail dro iddo gipio’r Fedal Ddrama. Fe’i cipiodd y tro diwethaf yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn Llanrwst yn 2019.

 

Rhoddwyd y wobr iddo mewn seremoni arbennig yn Sgwâr Canolog y BBC yng Nghaerdydd, yn unol â chyfyngiadau Covid.

 

Derbyniodd y ddrama Cadi Ffan a Jan, sy’n dilyn hynt dynes hŷn a brenhines drag sy’n byw gyferbyn â’i gilydd ganomliaeth uchel gan y beirniad Gwennan Mair Jones;

 

Mae’r cymeriadau yn grwn a real a theimlwn ein bod yn eu hadnabod yn syth ac yn eu hoffi hefyd; felly rydym yn barod iawn i fuddsoddi yn y ddrama o’r dudalen gyntaf.

 Mae’n anodd iawn sgwennu comedi sydd hefyd yn llawn dyfnder a braf iawn gweld drama syml sy’n aros yn y cof.

 

Addysgwyd Gareth Evans-Jones yn ysgolion Llanbedrgoch, Goronwy Owen, Benllech, a Syr Thomas Jones, Amlwch, cyn symud i Brifysgol Bangor i astudio ar gyfer BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol.