Teithiau Cerdded Mwyn

Teithiau cerdded archeolegol yn cychwyn ar y 6ed o Awst

gan Daniela Schlick
teithiauMWYN_Borth_Menai-1-1
teithiauMWYN_Caernarfon-1
teithiauMWYN_Llanberis_v1-1

Mae Rhys Mwyn a Menter Iaith Bangor yn cynnal cyfres o 3 taith gerdded archeolegol ym mis Awst. 

Bydd y daith gyntaf ar y 6ed o Awst am 6pm yn mynd ar hyd y llwybr arfordir o St. Georges Pier ym Mhorthaethwy i Lanfairpwll. Cewch hanes ac archeoleg y lle a chyfle i fwynhau’r daith yn y Gymraeg – boed yn siaradwr mamiaith neu’n siaradwr newydd. 

I gofrestru cysylltwch â neges@menteriaithbangor.cymru. 

Mae mwy o wybodaeth am y daith hon a’r 2 arall yng Nghaernarfon a Llanberis ar wefan Menter Iaith Bangor (Menter Iaith).