Sefydlu Encôr mewn pandemig

Cyd-ganu yn yr awyr iach!

Ruth Wyn Williams
gan Ruth Wyn Williams

Dros y cyfnod ‘gwahanol’ yma mae llawer ohonom wedi methu’r cyfle i gyd-ganu. Er bu llawer o gyfleoedd dros y rhwydwaith, does dim byd yn cymryd lle sefyll ochor yn ochor a joio bloeddio canu! Felly cyn y Nadolig, ddaeth criw bach i gynllunio’r ffordd orau i sefydlu côr yn unol â chyfyngiadau coronafeirws cyfredol. Erbyn hyn rydym yn cyd-ganu yn wythnosol ar nos Fercher 7 tan 8 yn yr awyr agored yn stadiwm pêl droed yn Nantporth, Bangor. Mae’r niferoedd sy’n cyd-ganu yn ddibynnol ar y cyfyngiadau. Felly cyn y Nadolig, ac ar ôl ail cychwyn wedi’r clo dechrau’r flwyddyn, buom yn canu mewn grwpiau bach. Ond yn falch, ar hyn o bryd bod y cyfyngiadau yn ein galluogi cyd-ganu mewn un ymarfer.

Rydym wedi cwblhau asesiad risg ac yn ei adolygu’n wythnosol, mae cadw ein gilydd yn saff yn bwysig gan gymryd pob mesur rhesymol i leihau cysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu. Felly mae’r drefn wythnosol o wisgo gorchudd gwyneb, gwirio symptomau a thymheredd, diheintio dwylo, cofrestru ddi-gyffwrdd gan gadw pellter cymdeithasol wrth fynd i’ch sedd yn y stadiwm yn hanfodol. Ambell i dro wrth sicrhau ein bod yn cadw’n gynnes rydym yn debycach i griw sy’n mynd ar drip sgïo na chôr!

Ond mae canu dan y bondo yn yr awyr iach yn llesol ac yn donic i’r enaid. Mae’n brofiad sy’n uno, ysgogi’r meddwl, yn hwyl ac yn heriol os ydych yn ceisio dysgu cân fel Bohemian Rhapsody! Pan fydd y cyfyngiadau yn caniatáu rydym yn gobeithio perfformio er mwyn codi arian at elusennau lleol. Mae croeso i aelodau newydd, nid oes angen profiad o gyd-ganu dim ond yr awydd i fwynhau.

Gyda diolch i Kiefer Jones am arwain y côr a threfnu’r gerddoriaeth, i Paul am gefnogaeth ar sain, a Carys a Jackie am y gweinyddu a Ruth sy’n cadw llygaid barcud ar y cyfyngiadau cyfredol. Awydd canu yn yr awyr iach? Mae croeso cynnes yn eich aros, ond mae’n hanfodol gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch am sgwrs: Ruth Wyn Williams: ruthwyn@btinternet.com / 07748967616.