Stryd Fawr wedi ailagor

Rhyddid i yrru ar hyd-ddi unwaith eto

William Owen
gan William Owen

Diwrnod mawr ym Mangor, mae’r Stryd Fawr wedi ailagor am y tro cyntaf er Rhagfyr 2019.

Mae gweithwyr yn dal ar safle’r ddwy siop a losgwyd mewn tân difrifol.  Er hynny mae cerbydau yn cael defnyddio’r ffordd a lle i gerdded ar hyd y palmant.

Bu’n gyfnod hir cyn i ddim ddigwydd i’r adeiladau. Ond yn gynharach eleni gosodwyd craen enfawr ar y stryd i ddechrau tynnu’r adeiladau i lawr.  O beth i beth bu llwyddiant i gyrraedd y nod.

Mae busnesau’r stryd yn falch iawn fod hyn wedi digwydd.  Maen nhw’n gobeithio y bydd hyn yn ailfwyiogi’r Stryd Fawr.