Mari Emlyn ar restr fer Llyfr y Flwyddyn

Mae cyfrol yr awdur o’r Felinheli wedi cyrraedd y rhestr fer

gan Osian Owen

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, ac mae awdur o’r Felinheli ymhlith y ’sgwennwyr llwyddiannus.

Cafodd enwau’r 12 llyfr Cymraeg eu datgelu am y tro cyntaf ar raglen Stiwdio BBC Radio Cymru yr wythnos hon.

Mae’r gwobrau yn cael eu rhoi o fewn pedwar categori gwahanol sef Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc.

Mae Wal gan Mari Emlyn ar restr fer y categori Ffuglen.

Y beirniaid eleni yw Guto Dafydd; y cyn Fardd Plant Cymru Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwraig Esyllt Sears.

Mae Wal wedi cael ei disgrifio fel “nofel amlhaenog gyda themâu cyfoes yn rhedeg drwyddi.”

Mae’r nofel yn dilyn fformat llyfr sydd yn helpu plant dysgu darllen.