Taith Gerdded Garth Celyn i gofio’r Dywysoges Gwenllïan ferch Llywelyn Ein Llyw Olaf

Y 12fed o Fehefin oedd Diwrnod Gwenllïan -merch Llywelyn ein Llyw Olaf a gipiwyd yn fabi o’i chynefin a’i magu mewn lleiandy yn Sempringham, Swydd Lincoln yn 1283 nes ei marwolaeth yno yn 1337 yn 54 oed. 

gan Anthony Caradog Evans
Taith-Garth-Celyn-1

Mintai’r daith gerdded yn Abergwyngregyn

Cynhaliwyd cyfres o weithgareddau er mwyn goffau’r Dywysoges goll rhwng Dydd Iau 10fed o Fehefin a Dydd Sul 13eg o Fehefin, gan gynnwys taith gerdded dan ofal gwybodus Rhys Mwyn.

Daeth pawb ynghyd yn y maes parcio cyn Pen y Bryn, cyn mynd ati i gerdded trwy Abergwyngregyn (Aber Garth Celyn yn ystod Oes y Tywysogion) gan sicrhau pellter cymdeithasol. Mi ddaru’r fintai o 24 oedi am gyfnodau wrth gerdded trwy’r pentref, er mwyn i’n tywysydd esbonio cryn dipyn o’r hanes a chreu darlun fyw i ni o’r cyfnod. Trafodwyd hefyd y ddadl am wir leoliad y llys brenhinol yn y pentref. Pen y Bryn a Phen y Mwd yw’r safleoedd posib mae’n debyg. Roedd yn wir yn agoriad llygad.

Diolch yn fawr i’r 24 wnaeth ymuno â’r daith ddifyr dros ben, ac i Rhys Mwyn am ein harwain.