Troi hen sgrybs yn anrhegion i fydwragedd

Trawodd Jessica Mullan ar y syniad wrth hemio dillad gwaith ei gŵr

gan Osian Owen

Sefydlodd Jessica Mullan gwmni OffcutCraftCreations ar ddechrau’r pandemig.

Mae’n gwneud crefftau gan ddefnyddio ffabrig dros ben o ffatrïoedd a busnesau lleol, ac mae’n disgrifio ei chynnyrch diweddaraf fel “yr anrheg berffaith i raddedigion Bangor neu fyfyrwyr bydwreigiaeth.”

Mae’n defnyddio toriadau o sgrybs meddygol ail-law i greu potiau planhigion a sgrynshis gwallt.

Dywedodd Jessica;

“Mae fy ngŵr yn fyfyriwr nyrsio ac roedddwn i wrthi’n hemio ei drowsus, a dyna pryd ges i’r syniad i ddefnyddio’r toriadau i wneud sgrynshis ar gyfer myfyrwyr nyrsio.

“Pan bostiais i’r sgrynshis ar fy nghyfrif Etsy, anfonodd perchennog tudalen sy’n hyrwyddo busnesau bach o Gymru (busnesabachcymru1) neges ataf yn dweud bod ganddi sgrybs bydwreigiaeth ers pan oedd yn fyfyriwr nad oedd am eu taflu.

“Mae logo’r brifysgol ar y sgrybs, a meddyliais y byddai’n syniad perffaith ‘uwchgylchu’r’ sgrybs i wneud anrhegion di-wastraff i raddedigion.”

Gallwch ddod o hyd i gynnyrch cynaliadwy Jess yma.