Diolch i ferch leol am ei “gwaith rhagorol”

Mae Sïan Eluned wedi treulio’r tair blynedd ddiwethaf yn gwirfoddoli, codi arian ac yn gwneud gwaith yn ei chymuned leol.

gan Osian Owen
194474230_1110128466178047

Aeth Siân Gwenllian AS draw i ddiolch i Sïan am ei gwaith

Mae Sïan Eluned o’r Felinheli wedi derbyn diolch am ei gwaith gwirfoddol, sy’n cynnwys codi arian ar gyfer elusennau canser, danfon anrhegion i gleifion yn uned Hergest Ysbyty Gwynedd, a chodi baw ci.

 

Ar hyn o bryd mae Sïan Eluned yn ddisgybl yn Ysgol Tryfan. Mae hi wedi treulio’r tair blynedd diwethaf yn gwirfoddoli, yn codi arian ar gyfer elusennau canser ac yn gwneud gwaith yn ei chymuned leol.

 

Yn 2019 cododd Sïan £1,253 ar gyfer Uned Canser Glan Clwyd trwy gynnal raffl, tombola a gwerthu dillad. Ers 2020 mae hi hefyd wedi codi £1000 ar gyfer Giddo’s Gift, elusen sy’n rhoi anrhegion a grantiau ariannol i bobl ifanc sy’n dioddef o ganser.

 

Yn ogystal â hynny, mae hi’n angerddol dros gefnogi cleifion yn uned Hergest Ysbyty Gwynedd, yn cynnwys dod ag anrhegion iddynt adeg y Nadolig. Yn 2020, aeth â chardiau a siocled Nadolig i gleifion yn Ysbyty Cefni, Llangefni, yn ogystal â mynd ag wyau siocled i gleifion yn Uned Hergest y Pasg hwn.

 

Bu hefyd yn ymweld â’r Heddlu, y Frigâd Dân, gweithwyr Ambiwlans, yr Ambiwlans Awyr, a Gwylwyr y Glannau, a rhoi hamper iddynt i ddiolch am eu gwaith dewr.

 

Yn ddiweddar, bu’n casglu baw ci yn y Felinheli, yn ogystal â gosod bagiau baw ci o amgylch ardal yr ysgol.

 

Mae Sïan wedi dechrau gwneud Ecobricks hefyd, blociau adeiladu wedi eu gwneud â photeli plastig wedi’u pacio’n dynn â phlastig.

 

Yn ddiweddar aeth Siân Gwenllian AS draw i ddiolch i Sïan, gan gadw pellter cymdeithasol.

 

Dywedodd;

 

“Mae llawer o bobl ifanc wedi camu i’r adwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn gwirfoddoli, helpu’r henoed, a chodi arian.

 

“Mae gwaith Sïan wedi bod yn rhagorol a hoffwn ddiolch yn fawr iddi.

 

“Mae’n esiampl i bob un ohonom, ac yn adlewyrchu’r ddyletswydd y mae pobl ifanc yn ei theimlo tuag at eraill; yr henoed, yr amgylchedd, a chleifion yn ein hysbytai.

 

“Roedd yn fraint ymweld â Sïan i ddiolch iddi’n bersonol.”