Peldroed yn ail-gychwyn yn Y Felinheli

Gemau cyfeillgar i baratoi am y tymor newydd

gan Gwilym John

Newyddion da o lawenydd mawr, mae peldroed yn ol, gyda dwy gêm gyfeillgar yn cael eu cynnal yn Seilo o fewn tridiau, y gemau cyntaf yno ers ddechrau Mawrth 2020. 

Newyddion da a newyddion drwg, i ddeud y gwir. Cafwyd gêm gyfartal gyda Llanrug 2-2 mewn gêm gystadleuol ar y nos Iau. A buddugoliaeth swmpus 8-0 yn erbyn Llanfairpwll ar y Sadwrn. Ond bu anafiadau drwg i chwaraewyr allweddol yn y ddwy gêm, y ddwy anaf yn hollol ddamweiniol. Yn y gêm gyntaf, disgynodd Guto, y golgeidwad, yn drwm tra’n clirio croesiad, a bu rhaid iddo adael y cae rhai munudau wedyn mewn poen dirfawr. Roedd dwy asen wedi cracio neu dorri, ac roedd problem gyda’i ysgyfaint. Buodd yn Ysbyty Gwynedd tan y bore wedyn.

Ac yn yr ail gêm, disgynodd Iwan Bonc yn drwn tra’n brwydro am bêl uchel, a thori pont ei ysgwydd. Mae hi’n bur debyg bydd rhaid iddo gael llawdriniaeth, ac yn debygol o golli misoedd cyntaf y tymor.

Mae colli dau chwaraewr pwysig fel rhain yn dolc mawr i baratoadau CPD Y Felinheli ar gyfer Cynghrair “Ardal” Gogledd Orllewin Cymru, sydd yn gynghrair newydd sbon yn nhrydydd haen y pyramid peldroed Cymraeg. 

Bu gêm gyfeillgar ryw bythefnos ynghynt yn Amlwch, lle cafwyd buddugoliaeth fawr 7-2, gyda ddim ond 11 chwaraewr ar gael (oherwydd gwyliau, etc). Bu rhaid i Guto Bwthyn helpu allan drwy chwarae fel ymosodwr. Cafodd ddebiw cofiadwy iawn i’w bentef. Sgoriodd o chwe gôl!

Gobeithio caiff Iw a Guto (y gôli) wellhad buan, a dychwelyd i chwarae i Felin yn fuan. Bydd y tymor go iawn yn cychwyn gyda ymweliad Mynydd Llandegai yng nghwpan Cymru Gorffennaf 10ed, a bydd Felin yn cychwyn eu hymgyrch yn y gynghrair gydag thrip i Rostyllen yn nghyffiniau Wrecsam ddiwedd Gorffennaf.

Gobeithio bydd Cymdeithas Bel-Droed Cymru yn caniatau cefnogwyr i fynychu’r gemau erbyn hynny.