Cynllun trefi £3M yn cynnwys Bangor

Clustnodir y gronfa £3m i annog mentergarwch mewn pedair tref yng ngogledd Cymru 

gan Osian Owen

Mae cronfa gwerth £3m sy’n cael ei threialu gan Lywodraeth Cymru yng nghanol pedair o drefi yng ngogledd Cymru i annog entrepreneuriaid i sefydlu yno bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. 

Bydd y gronfa yn cynorthwyo entrepreneuriaid i sefydlu busnesau ym Mangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam

Bydd yr arian yn gyfuniad o gyllid grant a benthyciadau i helpu entrepreneuriaid sy’n dechrau arni.