gan
Ann Corkett
Bu casglu sbwriel mewn sawl man ym Mangor ddydd Sadwrn diwethaf (12 Mehefin). Mae Cadwch Gymru’n Daclus hefyd wedi cychwyn cynllun Arwyr Sbwriel. Caiff unigolion offer casglu, cyngor diogelwch a modd i nodi ar y We faint maen nhw wedi’i glirio o ble. Cysylltwch â Daniel Griffith, Swyddog Prosiect Gwynedd, am ragor o fanylion, ar Daniel.Griffith@keepwalestidy.cymru neu 07824 504799