Ffansi dechrau cynganeddu?

Mae Menter Iaith Bangor yn cynnig cyfres o weithdai i ddechreuwyr

gan Osian Owen
cynganeddu-i-ddysgwyr

Mae Menter Iaith Bangor yn cynnig cyfres o weithdai cynganeddu i ddechreuwyr am ddim.

 

Bydd y 5 sesiwn yn digwydd yn rhithiol, ac maent yn agored i unrhyw un, yn unrhyw le! Nid oes angen gwybodaeth gychwynnol o’r gynghanedd, hyd yn oed!

 

Penderfynwyd cynnig y sesiynau yn dilyn llwyddiant sesiynau’r llynedd.

 

Bydd y gweithdai yn digwydd ar nosweithiau Llun am 19:00PM, yn dechrau ar 21 Mehefin.

 

Dylai’r sawl sy’n dymuno mynychu anfon e-bost at DylanBrynRoberts@gwynedd.llyw.cymru.

 

Gallwch fynychu’r digwyddiad Facebook drwy ddilyn y ddolen hon.