Cyfarfod cyhoeddus yn galw i uwchraddio parc lleol

Cynhaliwyd cyfarfod awyr agored i gefnogi’r alwad

gan Osian Owen

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus awyr agored yn y parc heddiw (dydd Gwener 11.06.21) yn galw i uwchraddio parc chwarae Lôn y Glyder ym Maestryfan.

 

Nod yr ymgyrch yw uwchraddio’r parc gydag offer newydd a chyfleusterau gwell i blant lleol.

 

Yn ogystal â theuluoedd ac unigolion lleol, mynychwyd y cyfarfod gan yr Aelod o’r Senedd lleol Siân Gwenllian, y cynghorwyr Catrin Wager ac Elin Walker Jones, a’r Maer Owen J Hurcum.

 

Dywedodd Siân Gwenllian AS;

 

“Roedd yn braf mynychu cyfarfod cyhoeddus adeiladol iawn heddiw, yn rhan o’r ymgyrch i uwchraddio parc chwarae Lôn y Glyder ym Maestryfan.

 

“Mynychwyd y cyfarfod gan bobl leol frwdfrydig, ac rwy’n cefnogi’r ymgyrchwyr. Rwy’n falch bod consensws cyffredinol i symud ymlaen.”

 

Gallwch ddysgu mwy am yr ymgyrch trwy ddilyn eu tudalen Facebook.