Lwc ac Anlwc, Coel a Chred ym Mangor a’r Felinheli.

Beth mae pobl Bangor a’r Felin yn ei gredu?

Goriad
gan Goriad

Dwi wedi bod wrthi ers blynyddoedd yn casglu llên gwerin ardal Bangor a’r Felinheli: cred pobl am lwc ac anlwc, straeon bwganod, hanesion enwau lleoedd, meddyginiaethau, arwyddion tywydd a hen arferion.

Dyma i chi rai enghreifftiau:

Beth sy’n lwcus?
Aderyn yn baeddu’ch dillad chi.
Gweld cath ddu, yn enwedig os yw hi’n dod atoch ac yn rhwbio’i hun yn eich erbyn.
Cael hyd i fotwm â phedwar twll ynddo. Rhowch o yn eich pwrs iddo ddenu pres ato. Cyn rhoi pwrs yn anrheg i rywun arall, rhowch bres ynddo, os dim ond ceiniog, fel na fydd byth yn wag.
Os ydi cledr eich llaw dde’n cosi, mae pres ar ei ffordd atoch.
Gweld ceffyl gwyn.
Os cewch hyd i bluen asgell neu gynffon aderyn, sodrwch hi yn y ddaear.

Beth sy’n anlwcus?
Torri gwallt neu ewinedd plentyn cyn ei fod yn flwydd oed.
Cael tynnu’ch llun efo’ch cariad cyn i chi briodi.
Aderyn yn hedag i mewn i’r tŷ.
Dod â blodau gwynion i mewn i’r tŷ: maen nhw’n “flodau cynhebrwng”.
Gweld tylluan gefn dydd golau.
Tocio coeden gelyn.
Caniatáu merch ar fwrdd llong.
Malu drych: mae hynny dod â saith mlynedd o anlwc, ond gallwch osgoi hynny trwy gladdu saith o ddarnau’r drych ar unwaith. A pheidiwch â dangos i faban ei lun ei hun mewn drych!
Codi maneg wedi i chi ei gollwng ar lawr: gofynnwch i rywun arall ei chodi.
Rhoi esgidiau ar gadair neu fwrdd.

Neu beth am goelion eraill?
Os ydych chi’n breuddwydio am lygod mawr, mae rhywun yn cenfigennu wrthych. Os am golli’ch dannedd, mae rhywun yn lladd arnoch yn ddirgel. Breuddwydiwch am y meirw, a chewch newyddion am y byw. Os breuddwydiwch am rywbeth ar nos Wener, ac y dymunwch i’r breuddwyd ddod yn wir, peidiwch â sôn amdano wrth neb y bore canlynol.
Peidiwch â chyffwrdd â dŵr berwi wyau: mi gewch chi grach a defaid ar eich dwylo.
Mae dillad ar lein yn sychu’n well yng ngolau’r lleuad lawn nag ar unrhyw adeg arall.
Mae prynu ymbarél ar dywydd sych yn medru peri i law ddisgyn: “prynu ymbarél, prynu glaw.”
Os am fentro pres ar ras geffylau, mentrwch ar geffyl â thair troed wen; neu ar joci sy’n gwisgo melyn; neu ar geffyl glas.
Mae swigod ar wyneb eich panad yn arwydd bod pres ar ddod i chi. Os ydych chi’n tollti te a’r tebot yn gwagio cyn i chi lenwi’r gwpan olaf, mae eich cariad chi’n anffyddlon.
Peidiwch â chael darllen eich ffortiwn yn aml, na cheisio darllen eich ffortiwn eich hun.

Dyna ychydig enghreifftiau: wyddoch chi am ragor? Mi hoffwn gael gwybod gennych, yn enwedig os ydych wedi clywed coelion o’r fath yn yr ardal hon, neu gan rywun o’r ardal hon. Croeso i chi ymateb yma, neu yrru ataf ar cyfarchiad@yahoo.co.uk .

Howard Huws.