Sefydliadau Bangor yn cydweithio i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant

Dechrau’n gynnar i baratoi ar gyfer 2022

gan Daniela Schlick
image001

Dechrau’r trefniadau ar gyfer 2022

O’r 25ain o Chwefror tan y 5ed o Fawrth 2022 byddwn ni’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant ym Mangor.

Daeth grŵp o sefydliadau Bangor at ei gilydd am y 4edd flwyddyn i ddechrau trefnu rhaglen o ddigwyddiadau ar y cyd i ddathlu diwrnod ein nawddsant.

Bydd Pontio, Storiel, Castell Penrhyn, Menter Iaith Bangor, Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, Adra, Dinas Bangor a llawer mwy yn creu digwyddiadau eto i ddathlu dros bythefnos gyfan. Ac mae’n edrych yn addawol mai digwyddiadau wyneb yn wyneb fydd y rhan fwyaf yn 2022. Cawn ni ddathlu efo’n gilydd unwaith eto.

Ac mae mwy o ddigwyddiadau cyffrous ar y ffordd yn ystod y flwyddyn. Felly cadwch y llygaid ar agor am fwy o wybodaeth ar dudalen Facebook Gŵyl Dewi Bangor @gwyldewibangor.