Golau gwyrdd i ddatblygiad tai Pen-y-ffridd

Mae’r Arolygiadeth Gynllunio wedi dirymu penderfyniad Cyngor Gwynedd.

Goriad
gan Goriad
Ceir-yn-y-stryd-3

Ceir wedi’u parcio ar hyd Ffordd Pen-y-ffridd.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yng Nghaerdydd wedi caniatáu apêl gan gwmni tai Adra, a rhoi’r golau gwyrdd i ddatblygiad o 30 annedd ar dir ym Mhen-y-ffridd ym Mhenrhosgarnedd.

Gwnaeth cwmni tai Adra gais am ganiatâd cynllunio yn ôl yn Rhagfyr 2019, ond darfu i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wrthod y cais ddwywaith, ar sail bygythiad y datblygiad i’r iaith Gymraeg yn lleol, a pherygl trafnidiaeth. Wedi hynny, apeliodd Adra at yr Arolygiaeth Gynllunio.

Mae’r ffordd at safle’r datblygiad yn gul, ac yn cael ei defnyddio ar gyfer parcio. Mae’r ardal wedi gweld dirywiad yng nghanran Gymraeg y boblogaeth yn ystod y degawdau diwethaf, a chan fod 12 o’r 30 annedd yn rhaid “marchnad agored” y gallai unrhyw un o unrhyw le eu prynu, mae ofnau y byddant yn dai cymudo i bobl o’r tu allan i’r ardal. Mae’r safle, rhwng Ffordd Pen-y-ffridd, Ffordd Penrhos a Bryn Ogwen, yn rhan o safle lle bu cwmni Morbaine yn bwriadu codi 366 o dai: ond trechwyd y cais hwnnw, ar sail effaith ar y Gymraeg, ddwy flynedd yn ôl.

Meddai Howard Huws, preswyliwr lleol sy’n siarad ar ran y lleill: “Mae hwn yn benderfyniad siomedig tu hwnt. Mae’r bobl leol yn erbyn y datblygiad, ac wedi cyflwyno deiseb i’r perwyl hwnnw. Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd yn ei erbyn, ac wedi pleidleisio yn ei erbyn ddwywaith. Er gwaethaf hynny, gall y darpar-ddatblygwr apelio at yr Arolygiaeth Gynllunio, at bobl nad ydynt yn gwybod fawr ddim am yr ardal na’i phobl, na’u diwylliant. Pe bai’r Pwyllgor Cynllunio wedi pleidleisio o blaid y cais, ni fuasai modd i neb ohonom ni apelio at yr Arolygiaeth Gynllunio: mae’r drefn wedi’i gogwyddo o blaid y datblygwr.”

Mae cais wedi’i wneud i’r Pwyllgor Cynllunio sicrhau na fydd yna waith yn digwydd ar y safle yn ystod tymor nythu’r adar, ac y rhoddir enw ar y datblygiad sy’n adlewyrchu enwau caeau’r safle, fel bo rhywfaint o gysylltiad â hanes a diwylliant yr ardal.